Capturing data and evaluating with families: Afternoon Cuppa Session (Wales)
Monday 1 July, 2.30-3.30pm
Are you unsure about the type of data you could be capturing about your family
visitors? Do you want to learn more about the evaluation you should be doing
with families to inform your work with this audience?
About this training
This training webinar will be led by heritage consultant Ruth McKew, who works
with museums across the UK to help them develop and connect with their
audiences. Ruth’s current work ranges from activity and interpretation planning
to feasibility studies and audience development and evaluation, including work
with small and medium museums in Wales.
The session will help delegates to:
* think about data you could be capturing regularly about family visitors,
* review your current evaluation with families,
* explore a variety of data capture and evaluation technique ideas,
* make plans to put the training into practice in their organisation.
Take a look at the full schedule.
[https://kidsinmuseums.org.uk/wp-content/uploads/2024/05/Capturing-data-and-evaluating-with-families-afternoon-cuppa-Wales-session-schedule-final.pdf]
This training will be delivered virtually on Zoom over one hour.
The session will be delivered in English with bilingual slides, with an option
to provide a Welsh language interpreter.
Run in partnership with the Welsh Museums Federation and generously supported by
the Welsh Government
Who should attend?
This training is aimed at staff or volunteers who work in museums, art galleries
and heritage sites and are interested in reviewing or beginning their thinking
about capturing data and evaluating with families to improve their provision for
this audience. This webinar is for staff and volunteers from Welsh museums only.
Casglu data a gwerthuso gyda theuluoedd: Sesiwn Paned Prynhawn (Cymru)
Dydd Llun 1 Gorffennaf, 2.30-3.30pm
Ydych chi’n ansicr pa fath o ddata y gallech chi fod yn ei gofnodi am y
teuluoedd sy’n ymweld â chi? Ydych chi eisiau dysgu mwy am y gwerthuso y dylech
ei wneud gyda theuluoedd i hysbysu eich gwaith gyda’r gynulleidfa hon?
Gair am yr hyfforddiant hwn
Bydd y gweminar hyfforddi hwn yn cael ei arwain gan yr ymgynghorydd treftadaeth
Ruth McKew sy’n gweithio gydag amgueddfeydd ledled Prydain i’w helpu i ddatblygu
a chysylltu gyda’u cynulleidfaoedd. Mae gwaith Ruth ar hyn o bryd yn amrywio o
gynllunio gweithgareddau a dehongliadau i wneud astudiaethau ymarferoldeb a
datblygu a gwerthuso cynulleidfaoedd, yn cynnwys gwaith gydag amgueddfeydd bach
a chanolig eu maint yng Nghymru.
Bydd y sesiwn yn helpu cynrychiolwyr i:
* feddwl am y data y gallech ei gasglu’n rheolaidd am deuluoedd sy’n ymweld,
* adolygu’r gwerthuso a wnewch ar hyn o bryd gyda theuluoedd,
* archwilio amrywiaeth o syniadau am gasglu data a thechnegau gwerthuso,
* gwneud cynlluniau i roi hyfforddiant ar waith yn eich sefydliad.
Gwelwch yr amserlen lawn.
[https://kidsinmuseums.org.uk/wp-content/uploads/2024/05/Welsh-Capturing-data-and-evaluating-with-families-afternoon-cuppa-Wales-session-schedule-final.pdf]
Bydd yr hyfforddiant wedi ei ddarparu’n rhithiol ar Zoom a bydd yn para am awr.
Bydd y sesiwn wedi ei darparu drwy gyfrwng y Saesneg gyda sleidiau dwyieithog,
ac opsiwn i gael cyfieithydd Cymraeg.
Rhedir hwn mewn partneriaeth â Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru gyda chefnogaeth
hael gan Lywodraeth Cymru.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei fwriadu ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sy’n
gweithio mewn amgueddfeydd, orielau celf a safleoedd treftadaeth ac sydd â
diddordeb mewn adolygu neu ddechrau meddwl am gasglu data a gwerthuso gyda
theuluoedd i wella eu darpariaeth ar gyfer y gynulleidfa hon. Mae’r gweminar hwn
i staff a gwirfoddolwyr o amgueddfeydd Cymru yn unig.